Galarwyr yn Chattanooga
Mae teulu’r dyn sydd wedi’i amau o lofruddio pedwar llengfilwr a morwr Americanaidd wedi cydymdeimlo â theuluoedd y rhai fu farw.

Dywed yr awdurdodau fod Muhammad Youssef Abdulazeez, 24, wedi saethu at bobol mewn canolfan recriwtio ar gyfer y llengfilwyr yn Chattanooga yn nhalaith Tennessee ddydd Iau.

Ar ôl gadael y ganolfan honno, fe aeth i ganolfan arall, lle cafodd y llengfilwyr a’r morwr eu saethu’n farw.

Cafodd Abdulazeez ei saethu’n farw gan yr heddlu yn y pen draw.

Mewn datganiad, dywedodd teulu Abdulazeez: “Does dim geiriau i ddisgrifio ein sioc, ein braw a’n galar.

“Nid y mab yr oedden ni’n ei adnabod a’i garu oedd wedi cyflawni’r drosedd erchyll hon.

“Roedd ein mab yn dioddef o iselder ers nifer o flynyddoedd.

“Mae ein galar y tu hwnt i grediniaeth am y ffaith fod y boen wedi’i mynegi drwy’r weithred dreisgar hon.”

Mae’r teulu’n cydweithio â’r awdurdodau wrth iddyn nhw ymchwilio i’r digwyddiad.

Mae gwasanaeth coffa wedi’i gynnal i gofio am y pump fu farw, lle cafodd y gymuned Islamaidd gefnogaeth agored gan y gymuned ehangach.

Does neb wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r digwyddiad, ond cafodd dwy ddynes eu gweld yn cael eu tywys o gartref Abdulazeez mewn cyffion gan yr FBI.

Dydy hi ddim yn glir eto pam y digwyddodd yr ymosodiad, na chwaith a oedd gan Abdulazeez gysylltiad ag unrhyw grwpiau brawychol.