Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi addo helpu’r Unol Daleithiau i “ddinistrio’r Wladwriaeth Islamaidd”.

Dyma’r awgrym mwyaf eto y gallai lluoedd Prydain ymuno mewn cyrchoedd awyr yn Syria.

Dywedodd Cameron ei fod yn awyddus i Brydain “wneud mwy” pe bai’n cael sêl bendith y Senedd.

Mae disgwyl iddo amlinellu mewn araith ddydd Llun yr hyn y byddai’r Llywodraeth yn ei gynnwys mewn strategaeth pum mlynedd i leddfu’r perygl o ymosodiadau brawychol.

Fe allai pleidlais seneddol gael ei chynnal yn yr hydref i benderfynu a ddylid bwrw ymlaen gyda chynlluniau i gynnal cyrchoedd awyr yn Syria.

Ond fe fydd disgwyl hefyd i weinidogion y Llywodraeth egluro pam y bu i’r Llu Awyr gymryd rhan mewn cyrchoedd yn Syria er gwaethaf penderfyniad aelodau seneddol na ddylai Prydain gymryd rhan ynddyn nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran Stryd Downing fod David Cameron yn ymwybodol bod criw bach o’r llu awyr wedi helpu lluoedd yr Unol Daleithiau a Chanada.

Mae lle i gredu bod o leiaf 700 o bobol o wledydd Prydain wedi teithio dramor i helpu’r Wladwriaeth Islamaidd hyd yma, a bod eu hanner bellach wedi dychwelyd.