Senedd Gwlad Groeg
Mae mwyafrif ASau Gwlad Groeg wedi pleidleisio dros dderbyn pecyn o fesurau economaidd llym, er gwaethaf anghytuno chwyrn gan aelodau o blaid y Prif Weinidog, Alexis Tsipras.
Mae’r pecyn o fesurau newydd wedi arwain at ddicter ymysg ASau plaid Syriza, sy’n llywodraethu, a gwrthryfel mewnol yn erbyn y prif weinidog.
Mae Alexis Tsipras wedi mynnu mai’r fargen hon oedd y gorau i gadw Gwlad Groeg yn yr ewro yn dilyn cynhadledd gydag arweinwyr gwledydd parth yr ewro dros y penwythnos.
Cafodd y mesur, sy’n codi treth ar werth ac yn torri gwariant, ei gymeradwyo o 229 pleidlais i 64 gyda chwe aelod yn ymatal.
Roedd aelodau amlwg o blaid Syriza ymhlith y 38 o aelodau’r blaid wnaeth bleidleisio yn erbyn y mesur – gan gynnwys y gweinidog ynni Panagiotis Lafazanis a’r cyn weinidog cyllid Yanis Varoufakis.
Daeth y bleidlais yn dilyn protestiadau gwrth lymder gan tua 12,000 y tu allan i’r senedd neithiwr. Bu heddlu terfysg yn defnyddio nwy dagrau i dawelu’r dorf wrth iddyn nhw daflu bomiau petrol atyn nhw.
Pasio’r mesur oedd y cam cyntaf mae’n rhaid i Wlad Groeg ei gymryd er mwyn gallu dechrau trafodaethau gyda gwledydd Ewrop ar gael setliad newydd am gymorth ariannol – ei drydedd mewn pum mlynedd – o tua £60 biliwn mewn benthyciadau dros gyfnod o dair blynedd.
Roedd y rhai yn erbyn y mesur yn dadlau na allai Gwlad Groeg wynebu unrhyw doriadau pellach ar ôl chwe blynedd o ddirwasgiad sydd wedi arwain at dlodi a diweithdra ac economi’r wlad yn crebachu.