Mae archfarchnadoedd yn wynebu cyfres o fesurau ar ôl i’r Awdurdod Cystadlaethau a Marchnadoedd (CMA) ddod o hyd i dystiolaeth am gynigion “camarweiniol a dryslyd” wrth gynnig nwyddau.
Fe fydd y corff sy’n goruchwylio cystadleuaeth yn y diwydiant yn cymryd mesurau i annog yr archfarchnadoedd i gydymffurfio a’r rheolau, ei gwneud yn fwy clir i gwsmeriaid a symleiddio’r rheoliadau.
Daw’r adroddiad gan y CMA heddiw yn dilyn ymchwiliad gan y grŵp defnyddwyr Which?.
Roedd yr ymchwiliad wedi mynegi pryderon ynglŷn â “chynigion dryslyd a chamarweiniol” a’i bod yn anodd cymharu prisiau’n hawdd.
Dywedodd Nisha Arora o’r CMA: “Tra bod archfarchnadoedd eisiau cydymffurfio a’r rheolau a chwsmeriaid yn mwynhau nifer o ddewisiadau eang, rydym wedi darganfod bod ’na achosion o arferion gwael a allai ddrysu neu gamarwain siopwyr.
“Felly rydym yn argymell camau pellach i sicrhau eu bod yn cydymffurfio a’r rheolau ac i sicrhau bod siopwyr yn cael gwybodaeth glir a chywir.”