Mae’r chwilio’n ail-ddechrau y bore ma am bysgotwr a’i gwch sydd ar goll oddi ar arfordir gogledd Cymru.
Dechreuodd y chwilio fore ddoe gyda hofrennydd a sawl bad achub yn chwilio mewn ardal ger Llanddulas, Bae Colwyn.
Mae’n debyg nad oes unrhyw un wedi clywed gan y pysgotwr ers 11:30yh nos Fawrth.
Daeth y chwilio i ben am 10:30 neithiwr ar ôl darganfod rafft bywyd ger Llanddulas oedd wedi dod oddi ar gwch y pysgotwr.