Fe fydd strategaeth newydd yn cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru heddiw er mwyn helpu pobol sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad.

Mae hunanladdiad yn broblem gynyddol yng Nghymru, gyda rhwng 300 a 350 o bobol yn marw drwy hunanladdiadau bob blwyddyn.

Mae’r cynllun Beth am Siarad â Fi 2, yn gynllun pum mlynedd wedi’i anelu at grwpiau o bobol penodol sydd â’r fwyaf o risg o gyflawni hunanladdiad neu hunan-niweidio.

Y grwpiau hynny yw dynion canol oed, pobol ifanc, pobol dros 75 oed a phobol sydd mewn carchar neu mewn gofal seiciatrig.

Amcanion y cynllun

Amcan Beth am Siarad â Fi 2, yw sicrhau y bydd y Gwasanaeth Iechyd, mudiadau ac elusennau iechyd meddwl yn adnabod ac yn sicrhau ymyrraeth gynnar i achosion o hunanladdiad.

Bydd pwyslais hefyd ar godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd gan bortreadu hunanladdiad mewn modd cyfrifol, ynghyd â darparu gwybodaeth a chyngor i’r teulu sy’n cael eu heffeithio.

“Yr hyn sy’n bwysig yw bod angen inni annog pobol i gael help cyn eu bod yn cyrraedd y pwynt o argyfwng”, meddai Dr Ann Jones o Brifysgol Abertawe, un a fu’n ymgynghori â’r Llywodraeth wrth lunio’r strategaeth.

Mae’r cynllun hwn yn wahanol i gynllun blaenorol Llywodraeth Cymru, oherwydd mae’n cydnabod ac yn targedu grwpiau o bobol yn benodol.

“Mae ein strategaeth bum mlynedd newydd wedi’i thargedu’n fwriadol at y grwpiau hynny o bobol sydd mewn perygl arbennig o gyflawni hunanladdiadau a hunan-niweidio,” meddai Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Ymateb y mudiadau

Mae elusen y Samariaid yn cydnabod bod dynion canol oed yn un o’r grwpiau pennaf sydd mewn perygl o hunanladdiad.

Ym mis Mehefin 2015, fe wnaethon nhw lansio ymgyrch i dargedu dynion fel rhan o’r Pedwar Cam i Achub Bywydau. Un o’r ffyrdd y mae’r Samariaid yn bwriadu estyn at ei phobl yw sefydlu cynlluniau mewn cymunedau lleol, a sicrhau bod eu gwasanaeth ffôn yn aros yn ddi-dâl.

“Mae angen amrywiaeth fawr o asiantaethau i gydweithio’n genedlaethol ac mewn cymunedau lleol, er mwyn rhoi’r cyfle gorau i bobl weddnewid eu bywydau,” meddai Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru.

Yn ogystal, mae’r mudiad Hafal wedi croesawu strategaeth a chynllun gweithredu newydd y Llywodraeth.

“Mae pob achos o hunanladdiad yn drasiedi, i’r unigolyn ac i’w teuluoedd,” meddai Alun Thomas, Prif Weithredwr Hafal.

Roedd Alun Thomas yn falch i weld bod sicrhau ymyrraeth gynnar yn rhan o strategaeth Beth am Siarad â Fi 2, oherwydd “cynta’n byd y mae rhywun yn cael help am ei salwch meddwl, y lleia’n byd o risg sydd y byddan nhw’n hunan-niweidio neu’n cyflawni hunanladdiad,” esboniodd.

Mae nifer o’r elusennau a’r mudiadau yn teimlo nad yw pobol yn ymwybodol pa mor gyffredin yw salwch meddwl, na chwaith yn medru adnabod yr arwyddion cynnar.

“Mae’r stigma sydd yn bodoli o amgylch problemau iechyd meddwl yn gallu ei wneud yn anodd siarad am hunan-niweidio neu hunanladdiad,” meddai Rhiannon Hedge, Swyddog Polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru.

Cyfiawnder troseddol

Grŵp arall sydd wedi’u targedu yn y strategaeth hon yw’r rhai sydd wedi bod, neu’n parhau i fod, yn y carchar, neu mewn gofal seiciatrig.

Dywedodd Alun Thomas fod angen ystyried salwch meddwl wrth drin achosion troseddol am fod “gan nifer o’r bobol sydd mewn gwasanaethau tebyg salwch meddwl difrifol, yn enwedig mewn carchardai i ferched.”

Roedd y mudiadau yn gytûn ac yn croesawu’r strategaeth newydd, ac yn ôl Prif Weithredwr Hafal, y cyngor gorau i arbenigwyr iechyd yw “gwrando ar y teuluoedd a’r gofalwyr: nhw sy’n nabod y person orau, a nhw sy’n gallu adnabod yr arwyddion orau”.