Alan Henning
Mae teuluoedd gweithwyr dyngarol o Brydain a gafodd eu dienyddio gan frawychwyr IS wedi galw ar Brydeinwyr i atal eithafiaeth yn y wlad.

Cafodd David Haines ac Alan Henning eu llofruddio ar gamera gan eithafwyr IS ar ôl cael eu cipio yn 2013.

Cafodd eu llofruddiaethau eu ffilmio a’u rhoi ar y we.

Mae eu teuluoedd bellach wedi rhoi eu cefnogaeth i ymgyrch Fightback Starts Here gan ymuno a mwy na 100 o elusennau, sefydliadau rhyng-ffydd ac arweinwyr cymunedau sydd wedi rhoi addewid i fynd i’r adael a gwahanol ffurfiau o eithafiaeth.