George Osborne tu allan i Downing Street ddoe
Mae George Osborne  wedi bod yn amddiffyn ei Gyllideb ar ôl iddo gwtogi credydau treth a chynyddu’r isafswm cyflog ddoe.

Penderfyniad y Canghellor i gyflwyno cyflog byw gorfodol oedd canolbwynt y Gyllideb.

Mae’n golygu y bydd pawb dros 25 oed o fis Ebrill yn cael £7.20 yr awr, gan godi i £9 erbyn 2020.

Dywed y Canghellor y bydd chwe miliwn o bobl yn gweld cynnydd yn eu cyflogau o ganlyniad i’r cynllun.

Ond mae busnesau bach wedi rhybuddio y gallai arwain at ostyngiad mewn oriau gwaith a diswyddiadau gan na fyddai nifer yn elwa o’r gostyngiad yn y dreth gorfforaethol er mwyn talu am y gost ychwanegol.

Wrth amddiffyn y newidiadau, dywedodd George Osborne ei fod yn hanfodol ei fod yn parhau i ostwng gwariant “anghynaladwy” y wladwriaeth les a mynd i’r afael a phroblem cyflogau isel yn y DU.

Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4: “Rydw i’n ceisio creu sustem sydd yn deg ond sydd hefyd yn gynaliadwy oherwydd, yn y pendraw, y bobl sy’n dioddef fwyaf pan mae’r economi’n methu, yw’r rhai tlotaf yn ein gwlad, nid y rhai mwyaf cyfoethog.”

‘O le mae’r arian yn dod?’

Ond mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn amcangyfrif y bydd y cyflog byw yn costio oddeutu 60,000 o swyddi ac yn gostwng oriau gwaith pedwar miliwn o bobl yr wythnos.

Dywedodd cyfarwydd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) Robert Johnson y byddai’n rhaid i gwmnïau dod o hyd i’r arian i dalu’r cyflog byw gorfodol.

“Y cwestiwn yw, o le mae’r arian yma’n dod? Bydd yn gorfod dod un ai drwy ostyngiad mewn elw i’w cwmnïau sy’n eu cyflogi, neu gyflogau llai i bobl eraill sy’n cael eu cyflogi, neu brisiau uwch. Ar ddiwedd y dydd, mae’n rhaid i’r arian ddod o rywle,” meddai wrth Sky News.

Mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo George Osborne o geisio twyllo pobl drwy ail-frandio’r isafswm cyflog fel cyflog byw tra ar yr un pryd y torri budd-daliadau i bobl ddifreintiedig sy’n gweithio.

Bydd budd-daliadau’n cael eu rhewi am 4 blynedd, a budd-daliadau pobol o dan 21 oed yn cael eu gwaredu’n llwyr, a bydd cymorth i blant trwy gredydau treth a chredydau cynhwysol yn cael eu cyfyngu i ddau blentyn.