Alexis Tsipras
Fe fydd prif weinidog Gwlad Groeg yn gwneud apêl uniongyrchol i’r Senedd Ewropeaidd wrth i obeithion bylu ynglŷn â’r posibilrwydd o ddod i gytundeb.
Mae disgwyl i Alexis Tsipras gyflwyno araith i Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn Strasbwrg wrth i’w lywodraeth wneud cais am gymorth o gronfa’r Mecanwaith Sefydlogrwydd Ewropeaidd (ESM).
Roedd arweinwyr gwledydd parth yr ewro yn teimlo’n rhwystredig ddoe ar ôl i weinidog cyllid newydd Gwlad Groeg, Euclid Tsakalotos, ddod i gyfarfod brys ym Mrwsel heb unrhyw gynigion pendant.
Mae un o brif swyddogion grŵp parth yr ewro, Jeroen Dijsselbloem, wedi rhoi rhybudd clir i Wlad Groeg bod amser yn brin i gyflwyno pecyn o ddiwygiadau cyn i’r banciau fethdalu, a allai orfodi’r wlad i adael parth yr ewro.
Mae disgwyl i’r banciau aros ynghau tan o leiaf ddydd Iau.
Dywedodd Alexis Tsipras ei fod yn gobeithio datrys y sefyllfa erbyn diwedd yr wythnos.
Roedd mynegai’r FTSE 100 wedi gostwng mwy na 100 o bwyntiau ddoe wrth i’r gobeithion o ddod i gytundeb bylu.