George Osborne
Bydd George Osborne yn addo diwygiadau i “sicrhau dyfodol Prydain” yn y Gyllideb gyfan gwbl Geidwadol gyntaf ers 1996 heddiw.

Yn ei seithfed Gyllideb, mae disgwyl i’r Canghellor gyfeirio at gyflwr Gwlad Groeg i gyfiawnhau toriadau gan rybuddio mai’r “camgymeriad mwyaf” fyddai “meddwl fod ein holl broblemau wedi cael eu datrys”.

Mae’n debyg y bydd yn gwneud toriadau i gredydau treth a rhai budd-daliadau tai, lleihau’r cap budd-daliadau lles a chyhoeddi y bydd grantiau i fyfyrwyr yn cael eu sgrapio.

Ond mae’n bosib na fydd George Osborne yn bwrw ‘mlaen gyda chynlluniau i wneud  arbedion lles gwerth £12 biliwn erbyn 2017-18. Yn hytrach, bydd yn cyflwyno’r toriadau dros fwy o amser gan fod y Trysorlys wedi derbyn £15 biliwn yn fwy o dreth nag oedd wedi’i ragweld yng nghyllideb fis Mawrth.

Mae rhai wedi awgrymu y gallai’r Trysorlys dderbyn swm ychwanegol o £700 miliwn eleni, diolch i ryddid pensiwn newydd.

Credydau treth

Yn ogystal, mae credydau treth plant yn debygol o gael eu cyfyngu i’r ddau blentyn cyntaf, gan arbed  tua £1.4 biliwn y flwyddyn, ac ni fydd oedolion iach, ifanc yn cael hawlio budd-daliadau tai bellach.

Bydd George Osborne hefyd yn mynd yn bellach nag a gynlluniwyd yn flaenorol drwy gwtogi’r cap budd-daliadau o £26,000 i £23,000 y flwyddyn yn Llundain ac yn is fyth mewn rhannau eraill o’r DU.

Bydd arbedion o £250 miliwn yn cael eu gwneud trwy orfodi 340,000 o denantiaid awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ar incwm o £40,000 neu fwy yn Llundain, a £30,000 yng ngweddill Lloegr, i dalu’r un faint o rent ag y bydden nhw i landlord preifat o 2017/18 ymlaen.

Bydd y gost o £600 miliwn y flwyddyn ar gyfer darparu trwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed yn cael ei drosglwyddo i’r BBC o 2018/19 – gyda’r gorfforaeth yn penderfynu a ddylai’r polisi barhau ar ôl 2020.

Bydd y Gyllideb hefyd yn debygol o gael gwared a’r dreth etifedd ar gartrefi teuluol sydd werth hyd at £1 miliwn – fydd yn costio hyd at £1 biliwn i’r Trysorlys.

Ond mae George Osborne bron yn sicr o siomi Torïaid sydd wedi galw am doriad yn y gyfradd uchaf o dreth incwm o 45c i 40c.

‘Effeithio’r talwd a’r bregus’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn poeni y bydd Cyllideb y Ceidwadwyr yn effeithio’r bobol mwya’ tlawd a bregus.

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhwysto toriadau i fudd-daliadau tai i rai o dan 25 oed, ynghyd â chwtogi’r dreth etifedd.

“Dyma’r math o beth oedden ni’n eu stopio nhw rhag gwneud o’r blaen, ond rwy’n ofni fod y Ceidwadwyr yn troi’n ôl at hyn nawr,” meddai meddai Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Rwy’n ofni y bydd y Ceidwadwyr yn arbed costau ar draul y bobol mwyaf tlawd a bregus yn ein cymdeithas”, meddai Kirsty Williams.