Mae prif weithredwr banc Barclays, Antony Jenkins, wedi cael ei ddiswyddo.

Dywedodd y dirprwy gadeirydd Syr Michael Rake bod angen arweinyddiaeth newydd er mwyn cyflymu’r newidiadau yn y banc.

Dywed y banc y bydd yn penodi’r cadeirydd John McFarlane fel cadeirydd gweithredol o 17 Gorffennaf nes eu bod yn dod o hyd i olynydd i Antony Jenkins.

Cafodd Antony Jenkins ei benodi’n brif weithredwr ym mis Awst 2012.