Eluned Morgan
Mae’r Farwnes Eluned Morgan wedi cyhoeddi heddiw y bydd hi’n sefyll fel ymgeisydd Llafur yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn etholiadau’r Cynulliad fis Mai nesaf.

Daw’r cyhoeddiad annisgwyl yn dilyn y sôn y byddai’n ymgeisio yn etholaeth Castell-nedd, ar ôl i’r AC presennol, Gwenda Thomas, ddweud ei bod hi am ymddeol.

Ond, mae Eluned Morgan wedi penderfynu sefyll yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru gan bwysleisio ei chysylltiadau â’r ardal.

Roedd y blaid hefyd wedi’i dewis hi fel yr Aelod Seneddol Ewropeaidd ieuengaf ym Mrwsel yn 1994, gan ddangos, meddai hi, “eu bod wedi rhoi eu ffydd ynof pan oeddwn i’n ymgeisydd dibrofiad 27 mlwydd oed”.

Bellach, hi yw llefarydd y Blaid Lafur dros Gymru a materion tramor yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Aelodau presennol

Yr aelodau Llafur yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yw Joyce Watson a Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd.

Mae Golwg360 ar ddeall y bydd Joyce Watson yn parhau fel y dewis cyntaf ar restr y Blaid Lafur yn y rhanbarth hwnnw, wedi iddi gael ei hailethol y llynedd. Bydd Eluned Morgan yn ymgeisio felly i fod yn ail ar restr Llafur yn y rhanbarth.

Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Lafur, mae Rebecca Evans wedi cyhoeddi na fydd hi’n sefyll yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer etholiad y Cynulliad fis Mai 2016.

Yn hytrach, mae hi’n ystyried sefyll mewn etholaethau eraill gan gynnwys Llanelli, Castell-nedd neu Gŵyr.

“Rwy’n deall y problemau”

Dywedodd Eluned Morgan y byddai’n braf i gael mynd yn ôl i’w chartref yn y canolbarth lle mae ganddi gysylltiadau a gwreiddiau dwfn.

“Rwy’n deall y problemau, y diwylliant a’r heriau o fewn yr ardal, ac rwy’n hyderus y gall y blaid Lafur ennill y sedd gyntaf a’r ail ar y rhestr ranbarthol,” meddai Eluned Morgan.