Martyn Phillips, prif weithredwr newydd Undeb Rygbi Cymru (chwith) a Gareth Davies, cadeirydd yr undeb (llun: URC)
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau mai Martyn Lewis, sydd yn gyn-bennaeth ar gwmni B&Q, fydd prif weithredwr newydd y corff rheoli.
Bydd Martyn Lewis, sydd yn 46 oed, yn olynu Roger Lewis sydd wedi bod yn y swydd ers 2006 ac wedi dweud y bydd yn camu lawr ar ôl Cwpan y Byd nes ymlaen eleni.
Ar hyn o bryd mae’n gyfarwyddwr ar gwmni ymgynghori Leading Edge, ac yn ei ieuenctid fe fu’n chwarae rygbi dros ysgolion Cymru.
‘Dechrau’n syth’
Er nad yw’n dechrau’r swydd tan yr hydref dywedodd Martyn Lewis, sydd yn wreiddiol o Abergwaun, ei fod eisoes yn paratoi ar gyfer y rôl ac yn ystyried materion fel cytundeb teledu newydd y Chwe Gwlad a’r cytundeb gyda’r rhanbarthau.
“Rydw i’n gredwr mawr mewn datblygu pobl i’w llawn botensial a dw i’n gwybod o fewn Undeb Rygbi Cymru bod gweithlu angerddol a brwdfrydig iawn sydd eisoes wedi profi tipyn o lwyddiant,” meddai’r prif weithredwr newydd.
“Mae nifer o gyfleoedd a heriau yn wynebu’r gêm yng Nghymru a fy nhasg gyntaf i fydd gwrando, a deall busnes y corff rheoli yn fewnol ac yn allanol.
“Fel rhywun sy’n dilyn rygbi Cymru rydw i’n adnabod y dirwedd yn dda ac rwy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth positif yn ystod y blynyddoedd i ddod.”
Croeso gan y cadeirydd
Bydd Martyn Phillips yn cydweithio â chadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, sydd eisoes wedi ei groesawu i’r swydd.
“Roedd e wedi sefyll allan mewn rhestr fer o ymgeiswyr eithriadol o gryf ac rydw i’n sicr ein bod ni wedi dod o hyd i’r dyn cywir i fynd a rygbi Cymru yn ei blaen,” meddai Gareth Davies.
“Mae ei CV busnes trawiadol yn siarad dros ei hun, ac mae e hefyd yn amlwg yn berson sydd yn deall pwysigrwydd datblygu ac ysbrydoli staff a hapddalwyr er mwyn cael y canlyniadau gorau posib.”