Mae cyfarwyddwr pêl-droed Y Seintiau Newydd wedi dweud ei fod yn “hyderus” iawn y bydd ei dîm yn cyrraedd rownd nesaf Cynghrair y Pencampwyr heno.
Bydd y Seintiau yn wynebu B35 Torshavn o Ynysoedd y Ffaro gartref ar eu cae artiffisial yng Nghroesoswallt heno yn ail gymal rownd gyntaf y gystadleuaeth.
Mae gan bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru eisoes fantais dros yr ymwelwyr ar ôl ennill 2-1 yn y cymal cyntaf wythnos diwethaf diolch i gôl yn y munud olaf gan Mike Wilde.
Os yw’r Seintiau yn llwyddo i drechu’r ymwelwyr dros y ddau gymal heno fe fyddan nhw’n wynebu pencampwyr Hwngari, Videoton, yn yr ail rownd.
Hyderus o sgorio
Eu buddugoliaeth yn erbyn B36 Torshavn wythnos diwethaf oedd y tro cyntaf erioed i’r Seintiau Newydd ennill gêm oddi cartref yn Ewrop.
Bydd cic gyntaf yr ail gymal heno am 7.00yh ac mae cyfarwyddwr pêl-droed Y Seintiau, Craig Harrison, yn hyderus mai ei dîm ef fydd yn fuddugol.
“Rydw i’n hyderus iawn y gallwn ni fynd drwyddo ar ôl cael canlyniad gwych oddi cartref wythnos ddiwethaf,” meddai Craig Harrison.
“Mae mynd i ffwrdd o gartref wastad yn anodd felly roedd cael y fuddugoliaeth yn wych. Dw i’n hyderus y gwnawn ni gyrraedd y rownd nesaf ac yn credu’n gryf y gallwn ni sgorio gôl yn Park Hall fydd yn ein rhoi ni mewn safle grêt.”