Mae cyn-fatiwr a chyn-hyfforddwr Morgannwg, Alan Jones wedi dweud wrth Golwg360 fod denu prawf cyntaf Cyfres y Lludw i Gymru’n “beth mawr” i Forgannwg.

Bydd Lloegr ac Awstralia’n dechrau’r gyfres ar gae’r Swalec SSE yng Nghaerdydd ddydd Mercher, wrth i Awstralia geisio dal eu gafael ar y Lludw.

Yr Awstraliaid oedd yn fuddugol o 5-0 ar eu tomen eu hunain yn 2013-14 ac fe fydd gan Gaerdydd ran bwysig i’w chwarae’r tro hwn wrth i’r ddau dîm geisio dechrau’r gyfres gyda buddugoliaeth.

Mae Alan Jones yn cael ei ystyried yn un o’r chwaraewyr gorau na chafodd fyth y cyfle i chwarae mewn gemau prawf i Loegr.

Gyrfa Alan Jones

Sgoriodd Jones 36,000 o rediadau dosbarth cyntaf i Forgannwg dros gyfnod o 27 o dymhorau, gan gynnwys 1,000 o rediadau bob tymor am 23 o flynyddoedd yn olynol.

Roedd yn aelod o dîm Morgannwg a gurodd Awstralia yn 1964, ac fe darodd 99 yn ystod eu buddugoliaeth yn 1968.

Daeth ei unig ymddangosiad yng nghrys Lloegr mewn gêm yn erbyn tîm Gweddill y Byd yn 1970 – gêm a gafodd statws prawf ar y pryd ond a gafodd ei his-raddio’n ddiweddarach.

Dywedodd Alan Jones wrth Golwg360 ddechrau’r tymor hwn: “Mae’n beth mawr i Gymru, mae’n beth mawr i Forgannwg bo nhw’n gallu chwarae prawf yn y Swalec.

“Mae Lloegr yn chwarae yn erbyn Awstralia’n gêm fawr. Byddai lot o’r siroedd eraill yn lico ‘sen nhw’n gallu cael y gem ‘ma ar eu maes nhw.”

Dewis Cymru ar draul gogledd Lloegr?

Tair o’r siroedd hynny yw Swydd Efrog, Swydd Gaerhirfryn a Swydd Durham. Mae pob un ohonyn nhw wedi’u hamddifadu o’r cyfle i gynnal un o brofion y Lludw y tro hwn am amryw resymau.

Roedd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wedi dewis peidio derbyn ceisiadau gan Swydd Gaerhirfryn i gynnal gornest y Lludw yn Old Trafford a gan Swydd Durham i gynnal gornest yn Emirates Durham ICG.

Penderfynodd Swydd Efrog beidio gwneud cais i ddenu un o’r profion i Headingley am resymau ariannol.

Uchelgais

Serch eu trafferthion ariannol eu hunain, mae Morgannwg wedi cael eu dewis i gynnal y prawf cyntaf.

“Mae’n beth pwysig fod Morgannwg yn cario ’mlaen i gael Lloegr i ddod lawr i chwarae ar y maes hyn.

“Mae rhaid i ti gofio, pan wyt ti’n chwarae i Forgannwg – unrhyw chwaraewr ifanc sy’n chwarae i Forgannwg – ti moyn chwarae i Loegr. Mae’n bwysig wedyn bo ni’n cadw i fynd a chwarae prawf ar y maes yn y Swalec.”