Senedd Gwlad Groeg
Bydd Prif Weinidog Gwlad Groeg yn ceisio defnyddio ei fuddugoliaeth yn y refferendwm ddydd Sul i’w helpu i ddod i gytundeb gydag arweinwyr Ewropeaidd ym Mrwsel.

Wrth i Alexis Tsipras baratoi at ailddechrau trafodaethau i gael cymorth ariannol, gwrthododd  Banc Canolog Ewrop yn hwyr ddoe i gynyddu eu cymorth i fanciau Gwlad Groeg.

Bydd cyfarfod brys o weinidogion cyllid parth yr ewro yn cael ei gynnal ym Mrwsel y prynhawn yma, gydag uwchgynhadledd lawn o arweinwyr 19 o wledydd yr ewro yn cael ei gynnal heno.

Pleidleisiodd 61% o bleidleiswyr Gwlad Groeg yn erbyn pecyn o fesurau economaidd mae ei fenthycwyr wedi eu cynnig mewn refferendwm ddydd Sul, gan gynnwys toriadau pellach i bensiynau.

Ond, fel arwydd o gyfaddawd, mae Alexis Tsipras wedi penodi Gweinidog Cyllid newydd, Euclid Tsakalotos, i arwain trafodaethau gyda chredydwyr yn lle Yanis Varoufakis, a oedd yn gwrthdaro â’i gymheiriaid Ewropeaidd.

Fe fydd banciau Gwlad Groeg ynghau eto heddiw ac yfory gyda rhybuddion eu bod ar fin mynd i’r wal.