David Cameron a Maer Llundain, Boris Johnson mewn seremoni yn Hyde Park y bore ma
Mae cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal heddiw i gofio 10 mlynedd ers yr ymosodiadau brawychol yn Llundain ar 7 Gorffennaf 2005.
Fe fydd munud o dawelwch i gofio’r 52 o bobl gafodd eu lladd a’r cannoedd gafodd eu hanafu ar ôl i bedwar hunan fomiwr ymosod ar system drafnidiaeth Llundain.
Dywedodd David Cameron bod y gyflafan ar draeth Tiwnisia yn dangos bod y bygythiad yn parhau 10 mlynedd ers hynny ond mae wedi rhoi addewid na fydd gwledydd Prydain yn ildio i’r brawychwyr.
Fe fydd munud o dawelwch am 11.30 y bore ma yng Nghadeirlan San Paul a bydd yn cael ei nodi ar draws system drafnidiaeth Llundain. Fe fydd bysys yn stopio a chyhoeddiadau ar drenau tanddaearol yn tawelu am funud.
Mae’r Prif Weinidog David Cameron a Maer Llundain, Boris Johnson, wedi gosod torchau o flodau wrth ymyl cofeb barhaol yn Hyde Park y bore ma.
‘Bygythiad gwahanol iawn’
Yn ôl dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu Metropolitan, Mark Rowley, mae’r gwasanaethau diogelwch yn wynebu bygythiad “gwahanol iawn” 10 mlynedd ers 7/7.
Mewn cyfweliad gyda’r Press Association, mae wedi galw ar gymunedau i ymuno yn y frwydr yn erbyn radicaliaeth, gan ddweud bod eu cymorth yn bwysicach nag erioed i’r gwasanaethau diogelwch yn eu hymdrechion i atal ymosodiadau eraill.
Bws yn Sgwar Tavistock yn dilyn yr ymosodiad ar system drafnidiaeth Llundain yn 2005
‘Problem fyd-eang’
Mae Tony Blair, a oedd yn Brif Weinidog yn ystod trychineb 7/7, wedi gwadu y gallai’r ymosodiadau fod wedi cael eu gweld fel ymateb i’w bolisi tramor.
Dywedodd wrth LBC: “Mae hyn yn broblem fyd-eang… a’r unig ffordd o ddelio gyda hi yn y pendraw yw i bobl ddod at ei gilydd, beth bynnag yw eu cefndir crefyddol, a dweud ein bod yn unedig yn erbyn brawychiaeth, ac i ddweud na fyddwn ni’n caniatáu i unrhyw un esgusodi eu hunain am ladd pobl hollol ddiniwed drwy ddweud ei fod rhywsut yn ymateb i benderfyniad gan unrhyw lywodraeth.”