Mae bom wedi ffrwydro y tu mewn i fosg lle’r oedd cangen o al-Qaida yn Syria yn cynnal ei phryd bwyd ar ddiwedd cyfnod Ramadan.

Mae beth bynnag 14 o ddynion wedi’u lladd.

Fe ffrwydrodd y ddyfais ym Mosg Salem yn nhre’ ogleddol Ariha yn Syria, toc wedi i’r haul fachud neithiwr. Roedd degau o aelodau Ffrynt Nusra wedi dod ynghyd i ddod â’u hympryd i ben.

Fe gafodd yr ardal ei chau i ffwrdd am oriau wedi’r ffrwydriad.