Y merched yn gadael Prydain am Syria yn gynharach eleni
Mae teuluoedd dwy ferch ysgol o Lundain a ddihangodd i Syria er mwyn ymaelodi ag IS, wedi colli pob gobaith y byddan nhw’n dychwelyd adref… a hynny ar ôl cael gwybod fod y ddwy wedi priodi gwrthryfelwyr.

Fe fu heddluoedd y byd yn chwilio am dair disgybl ysgol o Bethnal Green, Shamima Begum, 15, Kadiza Sultana, 16, ac Amira Abase, 15, wedi iddyn nhw adael gwledydd Prydain er mwyn bod yn “wragedd Jihad”.

Mae’r teuluoedd bellach wedi cadarnhau fod dwy o’r merched wedi cysylltu gyda nhw i ddweud eu bod wedi priodi dynion sydd wedi’u argymell gan IS.

Fe ddywedodd y merched wrth eu teuluoedd hefyd nad ydyn nhw bellach yn byw gyda’i gilydd, ond ar chwâl yn ardal Raqqa yn Syria.

Fe ddaw’r newyddion diweddara’ wedi i luniau fideo gael eu cyhoeddi ar y we yn dangos y merched yn cerdded o gwmpas Raqqa yn cario gynnau reiffl.