Mae bachgen a gafodd ei dynnu o’r dwr ym Mae Caerdydd brynhawn ddoe, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Gei’r Forforwyn (Mermaid Quay) toc cyn 2 o’r gloch y pnawn, wedi adroddiadau fod bachgen yn ei arddegau mewn trafferthion yn y dwr.
Mae’r bachgen yn derbyn triniaeth yn Ysbyty’r Brifysgol yn y brifddinas.
Yn y cyfamser, mae Heddlu De Cymru wedi rhybuddio pobol am y peryglon o nofio yn y dwr yn y Bae.