Mae dwy hunanfomwraig wedi lladd 13 o bobol mewn marchnad brysur a chanolfan heddlu yng ngogledd-ddwyrain Nigeria.

Dyma’r pedwerydd ymosodiad yr wythnos hon, pan mae cyfanswm o 160 o bobol wedi’u lladd gan eithafwyr Boko Haram sydd i weld yn dilyn gorchymyn Islamic State i gynyddu nifer yr ymosodiadau yn ystod mis cysegredig Ramadan.

Yn yr ymosodiad mwyaf yr wythnos hon, fe fu gwrthryfelwyr yn targedu nifer o fosgiau yn nhref Kukawa ddydd Mawrth, gan saethu 100 o addolwyr yn farw tra’r oedden nhw’n gweddïo.