Mae 66 o bobol wedi’u hachub oddi ar olwyn ffair 400 troedfedd, wedi iddi ddod i stop am dros dri chwarter awr.

Fe fu’n rhaid i griw technegol ddefnyddio offer arbenigol er mwyn dod â’r holl deithwyr oddi ar reid The Orlando Eye yn Fflorida.

“Mae pob gwestai wedi’i symud yn ddiogel,” meddai llefarydd ar ran y gwasanaethau brys, a hynny ar ôl tair awr o ymgyrch achub. Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.

Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am The Orlando Eye yn dweud mai “ddiffyg technegol” achosododd i’r olwyn ddod i stop.