Mae gweinidog cyllid Gwlad Groeg wedi cadarnhau na fydd y wlad yn ad-dalu dyled gwerth £1.1 biliwn i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) heno.
Roedd disgwyl i’r wlad ad-dalu’r ddyled erbyn 11yh heno ond mae Yanis Varoufakis wedi cadarnhau bellach na fydd hynny’n digwydd.
Roedd trafodaethau wedi dod i ben heb gytundeb yr wythnos ddiwetha’, gan arwain at gau banciau’r wlad.
Mae ’na ddyfalu bod y Prif Weinidog Alexis Tsipras yn ceisio llunio cytundeb munud olaf gyda chredydwyr cyn gorfod ad-dalu’r dyledion.
Dywedodd swyddog ar ran Gwlad Groeg bod Alexis Tsipras wedi siarad gyda Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Jean-Claude Juncker, pennaeth Banc Canolog Ewrop Mario Draghi a llywydd y Senedd Ewropeaidd Martin Schulz.