Bydd ymgyrchwyr dros addysg Gymraeg yn Wrecsam yn cynnal protest tu allan i neuadd y dref heddiw ac yn cyflwyno deiseb i’r cyngor yn galw am ragor o ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y sir.

Daw’r brotest yn dilyn cyhoeddi llythyr beirniadol gan y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, am strategaeth ysgolion Cymraeg y sir.

Mae’r llythyr, a gafodd ei anfon ar 18 Mehefin i arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard, wedi cael ei gyhoeddi ar flog grŵp Plaid Cymru Wrecsam.

Yn y llythyr, mae Huw Lewis yn dweud ei fod wedi derbyn nifer o sylwadau gan “ACau, rhieni a rhan-ddeiliaid allweddol eraill am anallu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddarparu digon o leoedd dosbarth derbyn cyfrwng Cymraeg.”

Ychwanegodd y Gweinidog Addysg ei fod yn “arbennig o siomedig” nad yw cyflwyno Cynlluniau Strategol statudol wedi arwain at welliannau a bod y sefyllfa bresennol yn Wrecsam yn dangos “diffyg cynllunio digonol amlwg.”

Meddai Huw Lewis AC: “Mae’n ymddangos bod defnydd anfoddhaol o ddata wedi bod wrth sefydlu rhagamcanion cadarn ar gyfer lleoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ynghyd â diffyg deialog effeithiol gyda phartneriaid allweddol megis y Mudiad Meithrin am y galw tebygol am leoedd o’r fath.

“Mae hyn wedi arwain at lefel annerbyniol o blant yn cael gwrthod lle yn Ysgol Bro Alun ac yn achosi pryder sylweddol i’r rhieni dan sylw.”

Dywedodd y llythyr hefyd y bydd swyddogion o’r awdurdod lleol yn cyfarfod yn fuan gyda swyddogion y Gweinidog Addysg er mwyn amlinellu sut maen nhw wedi  datrys y materion tymor byr ac i ddangos sut y byddan nhw’n gwella mecanweithiau cynllunio yn y tymor hir.

Y ddeiseb

Yn ôl yr ymgyrchwyr, sydd wedi dechrau deiseb sydd â 750 o enwau arni ar hyn o bryd, cafodd Ysgol Bro Alun ei hadeiladu yn 2012 o ganlyniad i arolwg y cyngor i’r galw am ddarpariaeth addysg Gymraeg yn 2007, ond bellach mae’r ysgol yn llawn.

Yn ogystal, cafodd 24 o blant eu “siomi” wrth geisio cael mynediad i’r dosbarth meithrin a dosbarth derbyn ar gyfer mis Medi ac mae Ysgol Plas Coch, sydd gyda hanner y disgyblion mewn cabanau, hefyd yn llawn.

Mae Eleri Vaughan Roberts yn un o’r ymgyrchwyr sydd wedi methu cael ei phlentyn i ddosbarth meithrin Ysgol Bro Alun eleni, er gwaethaf byw lai na milltir i ffwrdd.

Dywedodd wrth golwg360 yr wythnos diwethaf nad oedd y cyngor  adran  addysg y cyngor “isio gwybod.”

‘Fforwm Cymraeg mewn Addysg’

Wythnos diwethaf, roedd yr AC Aled Roberts yn galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i osod mesurau tymor byr ar waith i ymdrin â’r nifer fawr o blant sydd wedi methu cael lle mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y sir.

Roedd yr alwad yn dilyn cyfarfod ‘Fforwm Cymraeg mewn Addysg’ a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir.  Ceisiodd ymgyrchwyr gael mynediad i’r Fforwm, cyn cael gwybod gan y Cadeirydd nad oedd y Fforwm yn gyfarfod cyhoeddus.

Oherwydd hynny, gofynnodd ymgyrchwyr a fydden nhw’n cael caniatâd i gyflwyno’r ddeiseb mewn Cyfarfod Arbennig y Cyngor brynhawn heddiw – y cyfarfod llawn olaf o gynghorwyr sir tan fis Medi.

Er iddyn nhw gael eu gwrthod oherwydd nad oedd unrhyw ddarpariaeth yn y cyfansoddiad a fyddai’n caniatáu i hynny ddigwydd mewn Cyfarfod Arbennig, bydd yr ymgyrchwyr yn parhau i wneud eu hachos yn neuadd y dref heddiw.

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Wrecsam am ymateb i lythyr Huw Lewis.