Mae Plaid Cymru wedi galw am newidiadau i’r system addysg fel bo athrawon yn gorfod ail-brofi eu gwybodaeth, yn debyg i ddatblygiad proffesiynol meddygon a chyfreithwyr.
Y bwriad y tu ôl i’r cynlluniau yw codi safonau addysg a chyraeddiadau mewn ysgolion, yn ôl y blaid.
Byddai’r cynnig yn golygu bod rhieni a phrifathrawon yn medru disgwyl safonau dysgu uchel cyson, meddai llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas sydd hefyd am weld cwrs Meistr ôl-radd mewn Arfer Addysgol yn cael ei gyflwyno.
Dywedodd: “Yn rhy aml, mae prifathrawon a rhieni yn cwyno nad oes fawr ddim y gellir ei wneud am ddysgu o safon wael.
“Trwy sicrhau y cynhelir safonau cadarn, rwyf eisiau rhoi gwybod i brifathrawon y byddwn yn eu cefnogi pan fyddant yn ymdrechu i wella’r dysgu yn eu hysgolion.
“Yn union fel mae’n rhaid i feddygon a chyfreithwyr orfod profi eu gwybodaeth a gwybod beth yw’r arfer gorau, rwyf eisiau i athrawon gael datblygu proffesiynol parhaus er mwyn sicrhau eu bod ar flaen y gad yn yr ystafell ddosbarth.”