Stadiwm y Mileniwm, ble bydd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr 2017 yn cael ei chynnal (llun: Andrew King/CC 2.0)
Mae UEFA wedi cadarnhau heddiw y bydd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn dod i Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn 2017.

Fe fydd cyfle felly i gefnogwyr pêl-droed o Gymru wylio’r gêm glwb fwyaf yn y byd ar eu stepen ddrws am y tro cyntaf erioed, yn y stadiwm sydd yn dal 74,000 o bobl.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn awyddus i ddenu’r gêm fawr i Gaerdydd ers sbel, a llynedd fe ddangosodd y brifddinas ei bod hi’n gallu cynnal gemau Ewropeaidd mawr wrth i’r Super Cup ddod i Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ac mae sêr tîm cenedlaethol Cymru Gareth Bale ac Aaron Ramsey eisoes wedi croesawu’r newyddion, gan ddweud ei bod hi’n “gyfnod cyffrous” i’r wlad.

Croeso gan y Gymdeithas

Bydd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Mileniwm dydd Sadwrn 3 Mehefin 2017, gyda ffeinal Cwpan Ewrop y merched yn cael ei chwarae deuddydd ynghynt yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Cafwyd croeso cynnes i benderfyniad UEFA gan nifer o ffigyrau amlwg gan gynnwys prif weithredwr a llywydd CBDC, Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis, ac arweinydd Cyngor Caerdydd Phil Bale.

“Mae’r Gymdeithas yn ddiolchgar i Bwyllgor Gweithredol UEFA am roi’r cyfle i’r Gymdeithas, ac i Gymru, lwyfannu un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd,” meddai llywydd CBDC Trefor Lloyd Hughes.

“Mae pêl-droed yng Nghymru yn bendant yn mynd o nerth i nerth ac edrychwn ymlaen at gydweithio’n agos ag UEFA a’n holl randdeiliaid dros y ddwy flynedd nesaf i gynnal dwy rownd derfynol gwerth chweil.”

Cyfle i Bale?

Llynedd fe fethodd Cymru gael ei dewis fel un o’r gwledydd fyddai’n cynnal gemau Pencampwriaeth Ewrop 2020, felly mae denu ffeinal Cwpan Ewrop ymhen dwy flynedd yn bluen fawr yn het CBDC.

Fe allai hefyd olygu bod gan Gymro siawns o ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda’i glwb ar dir cyfarwydd.

Yn 2014 fe enillodd Gareth Bale y gystadleuaeth gyda Real Madrid gan sgorio’r gôl fuddugol, cyn profi buddugoliaeth arall gyda’i glwb wrth iddyn nhw drechu Sevilla yn y Super Cup yng Nghaerdydd.

Mae Aaron Ramsey hefyd yn chwarae i un o brif glybiau Ewrop ar hyn o bryd, gyda chwaraewr canol cae Arsenal yn gwneud yn dda i’w glwb ac wedi denu sylw timau fel Barcelona yn ddiweddar.

Isadeiledd

Pan geisiodd CBDC ddenu Ewro 2020 i Gaerdydd fe godwyd cwestiynau ynglŷn ag os oedd gan brifddinas Cymru’r cysylltiadau trafnidiaeth a llety angenrheidiol i gynnal gemau pêl-droed Ewropeaidd mawr.

Ond mae’r ddinas, a Stadiwm y Mileniwm, yn gyfarwydd iawn â chynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon ac adloniant mawr gan gynnwys y Chwe Gwlad, ffeinal Cwpan yr FA, gemau pêl-droed Olympaidd a chyngherddau.