Mae prop y Dreigiau Dan Way wedi gorfod ymddeol o rygbi proffesiynol yn 28 oed yn dilyn anaf i’w ysgwydd.
Fe gadarnhaodd y rhanbarth heddiw bod cyn-chwaraewr Pont-y-pŵl, y Coed Duon a Chasnewydd wedi gorfod rhoi’r gorau i chwarae o ganlyniad i’r anaf.
Fe chwaraeodd y prop dros 100 o gemau dros y Dreigiau yn ystod ei yrfa.
“Dw i’n siomedig iawn fod yn rhaid i mi ymddeol o rygbi,” meddai Dan Way.
“Rydw i’n ddiolchgar am y cyfle a’r profiadau dw i wedi eu cael yn ystod fy amser gyda’r rhanbarth gan nad yw e’n rhywbeth mae llawer o bobl yn cael y cyfle i wneud.
“Hoffwn ddiolch i fy ffrindiau a fy nheulu yn ogystal â staff y Dreigiau sydd wedi bod yn grêt i mi drwy’r amser anodd yma. Hoffwn ddiolch hefyd i’r cefnogwyr ffyddlon sydd wedi gwneud Rodney Parade yn le mor wych i chwarae.”
Dywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau Lyn Jones fod y golled yn un fawr i’r tîm, ond fod y prop wedi gwneud “penderfyniad doeth er mwyn ei iechyd yn y dyfodol”.