Bydd gan Awstralia’r cydbwysedd gorau posib yn eu tîm erbyn iddyn nhw ddod i Gaerdydd ar gyfer prawf cyntaf Cyfres y Lludw, yn ôl y capten Michael Clarke.
Mae’r ymwelwyr eisoes wedi curo Swydd Gaint, ac fe fyddan nhw’n teithio i Chelmsford i herio Swydd Essex ddydd Mercher.
Ymhlith y batwyr, mae Steve Smith, Mitchell Marsh a chyn-agorwr Morgannwg Shaun Marsh eisoes wedi taro canred yr un, ac mae Chris Rogers a Shane Watson wedi dangos digon o addewid.
Mae’n debyg y bydd yr hyfforddwr Darren Lehmann yn arbrofi gyda’i fowlwyr yn y gobaith o ddewis y tri gorau o blith pump, ar ôl dweud bod ei fowlwyr wedi rhoi pen tost iddo fe.
Dydy Awstralia ddim wedi ennill oddi cartref yng Nghyfres y Lludw ers 2001, ond mae Michael Clarke yn parhau’n hyderus ar drothwy’r ornest yng Nghaerdydd.
“Roedd lot o bethau positif ddaeth allan o’r ornest (yn erbyn Swydd Gaint). Yn y lle cyntaf, fe wnaethon ni ennill ac roedd hynny’n bwysig iawn i ni fel tîm, i fynd allan a sicrhau buddugoliaeth gyntaf yn y DU,” meddai wrth Sky Sports.
“Fel unigolion, fe gafodd y bois yr hyn oedd ei angen arnyn nhw hefyd.
“Ry’n ni’n ceisio darganfod y cydbwysedd perffaith fel tîm yn arwain i fyny at y prawf cyntaf hwnnw, a dw i wastad wedi credu bod gemau paratoadol ar deithiau’n bwysig i ni eu chwarae er mwyn cael momentwm a hyder, a chael unigolion yn batio a bowlio.”
Ychwanegodd Clarke ei fod yn mwynhau’r awyrgylch ar drothwy’r gyfres.
“Mae’n rhan gyffrous o’r hyn sy’n dod gyda chriced y Lludw; y paratoi, y cyfryngau, disgwyliadau’r cyhoedd. Dw i’n credu bod hynny’n wych ar gyfer unrhyw gyfres.”