Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod gêm Cymru v Gwlad Belg
Fe fydd Cymru yn chwarae o flaen torf lawn yn Stadiwm Dinas Caerdydd unwaith eto ym mis Medi, wrth i dîm Chris Coleman groesawu Israel yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016.
Cafwyd cadarnhad gan swyddfa docynnau Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod pob tocyn wedi’i werthu ar gyfer y gêm, allai weld Cymru’n sicrhau ei lle ym Mhencampwriaethau Ewrop y flwyddyn nesaf.
Roedd y stadiwm, sydd yn dal 33,000 o bobl, dan ei sang bythefnos a hanner yn ôl pan enillodd Cymru 1-0 yn erbyn Gwlad Belg yn un o’r gemau mwyaf bythgofiadwy yn hanes y tîm.
Mae carfan Chris Coleman bellach yn agosáu at sicrhau eu lle mewn twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf ers 1958, ac fe fyddai buddugoliaethau yn eu dwy gêm ym mis Medi yn cadarnhau hynny.
Yr awyrgylch yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn y gêm yn erbyn Gwlad Belg:
A’r chwaraewyr yn dathlu ar y cae ar ôl y fuddugoliaeth hanesyddol:
Cyprus ac Israel
Fe fydd Cymru yn teithio i Gyprus ar gyfer eu gêm ragbrofol nesaf ar 3 Medi, cyn dychwelyd i Gaerdydd i herio Israel ar 6 Medi.
Ar hyn o bryd mae tîm Chris Coleman ar frig eu grŵp rhagbrofol, tri phwynt o flaen Gwlad Belg a phum pwynt o flaen Israel a Cyprus, a dal heb golli gêm.
Yna ym mis Hydref fe fydd Cymru yn gorffen eu hymgyrch ragbrofol gyda thrip i Bosnia, sydd chwe phwynt y tu ôl iddyn nhw, ac yna gêm gartref yn erbyn Andorra.
Ond fe fyddai ennill yn erbyn Cyprus ac Israel yn sicrhau bod Cymru yn gorffen yn nau safle uchaf y grŵp, ac felly yn saff o’u lle yn Ewro 2016.
Fe allai’r stadiwm lawn fydd yno i’w gwylio yn erbyn Israel weld tîm Cymru yn creu hanes felly, fel y garfan gyntaf i gyrraedd twrnament mawr ers i dîm John Charles gyrraedd Cwpan y Byd 1958.
Mae Stadiwm Dinas Caerdydd hefyd yn agos at fod yn llawn ar gyfer y gêm olaf yn erbyn Andorra, gyda dim ond rhai cannoedd o docynnau ar ôl ar werth.