Andy Murray
Bu rhai cefnogwyr tenis yn ciwio am hyd at 54 awr er mwyn cael seddau ar gyfer y diwrnod cyntaf o gystadlu yn Wimbledon eleni.

Dechreuodd y gystadleuaeth heddiw gyda phencampwr y dynion Novak Djokovic, yn ogystal â sêr eraill gan gynnwys John Isner ac Ana Ivanovic, eisoes wedi dechrau eu gemau yn y rownd gyntaf.

Dydd Mawrth fe fydd Andy Murray yn dechrau ei ymgyrch ef gyda gêm yn erbyn Mikhail Kukushkin o Kazakhstan, sydd yn 59fed yn rhestr detholion y byd.

Gwaharddiad

Roedd 8,000 o bobl eisoes yn y ciw am docynnau am 8.00yb dydd Llun, dwy awr a hanner cyn i’r drysau agor.

Roedd rhai hyd yn oed wedi bod yn aros ers 7.30yb dydd Sadwrn er mwyn hawlio’u lle ar flaen y ciw i weld y diwrnod cyntaf o chwarae yn nhwrnament tenis mwyaf adnabyddus y byd.

Mae mesurau diolgelwch wedi cael eu tynhau yn Wimbledon yn sgil yr ymosodiad brawychol yn Tunisia lle cafodd 38 o bobl eu saethu’n farw.

Eleni mae trefnwyr y gystadleuaeth hefyd wedi gwahardd nifer o eitemau rhag dod i’r meysydd, gan gynnwys fflasgiau thermos, ffyn hunlun a chadeiriau gwersylla.

Bydd y gystadleuaeth yn para pythefnos, gydag enillwyr senglau’r dynion a’r merched yn derbyn gwobr ariannol o £1.88m yr un.