Luke Rowe
Mae Team Sky wedi cadarnhau y bydd Luke Rowe a Geraint Thomas yn rhan o’u tîm i gynorthwyo Chris Froome wrth iddo anelu i ennill y Tour de France am yr ail waith.

Dyma fydd y tro cyntaf i Rowe, sydd yn 25 oed, seiclo yn ras feiciau enwocaf y byd, ac fe fydd yn ymuno â Geraint Thomas, sy’n 29 oed, fel yr ail Gymro yn y tîm.

Ac fe fydd yn foment hanesyddol i gefnogwyr seiclo yng Nghymru gan mai dyma’r tro cyntaf i ddau feiciwr o Gymru fod yn cystadlu yn y ras gyda’i gilydd.

Pump o Brydain

Chris Froome fydd prif seiclwr Sky, gyda’r wyth beiciwr arall yn gobeithio ei helpu i ennill y ras am yr ail dro, yn dilyn ei lwyddiant cyntaf yn 2013.

Yn ogystal â Froome, Thomas a Rowe mae Peter Kennaugh ac Ian Stannard wedi’u henwi yn nhîm Sky, sydd yn golygu bod gan y tîm bum seiclwr o Brydain.

Bydd y tîm hefyd yn cynnwys Nicolas Roche, Richie Porte, Leopold Konig a Wouter Poels.

Y disgwyl yw mai Alberto Contador o dîm Tinkoff-Saxo a Vincenzo Nibali o dîm Astana yw’r ddau seiclwr sydd yn fwyaf tebygol o herio Chris Froome ar gyfer y crys melyn.

Fe fydd y Tour de France yn dechrau yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg eleni, ac yn para o 4 i 26 Gorffennaf.