Tarodd Colin Ingram 96 oddi ar 62 o belenni wrth i Forgannwg gipio buddugoliaeth fawr yn y T20 Blast yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton ddoe.
Tri rhediad oedd ynddi ar ddiwedd gornest gyffrous sydd wedi cadw gobeithion Morgannwg o gyrraedd rownd yr wyth olaf yn fyw.
Cyrhaeddodd y Cymry 170-4 yn eu hugain pelawd, wrth i Graham Wagg (33*) gefnogi’r batiwr o Dde Affrica tua diwedd y batiad.
Roedd batiad Ingram yn cynnwys naw pedwar a chwech chwech, ac fe adeiladodd bartneriaeth o 64 gyda’i gapten a’i gydwladwr Jacques Rudolph ym mhelawdau agoriadol y batiad.
Wrth geisio’r canred, cafodd Ingram ei ddal gan Tom Cooper oddi ar Alfonso Thomas oddi ar belen ola’r batiad.
Os dechreuodd Morgannwg yn dda gyda’r bat, yna fe ddechreuon nhw’n well fyth gyda’r bêl.
Cafodd cyn-gapten Morgannwg, Jim Allenby ei fowlio gan Wayne Parnell yn y belawd gyntaf un ac roedd Gwlad yr Haf o dan bwysau o’r cychwyn cyntaf.
Daeth ail wiced i Forgannwg yn y chweched pelawd – pelawd ola’r cyfnod clatsio – wrth i Dean Cosker ddal Johann Myburgh oddi ar fowlio Wagg.
Bum pelawd yn ddiweddarach, roedd Gwlad yr Haf yn 83-3 wrth i’r dyn peryglus Peter Trego ddarganfod dwylo diogel Michael Hogan ar y ffin oddi ar Craig Meschede.
Parhaodd y wicedi i gwympo wrth i’r troellwr llaw chwith Dean Cosker gipio wiced James Hildreth, ac fe ddilynodd Luke Ronchi a Tom Cooper oddi ar belenni olynol.
Wrth i Wlad yr Haf gyrraedd 139-8, collodd Jamie Overton ei wiced am 10, ac roedd angen 28 oddi ar 12 o belenni ar y tîm cartref am y fuddugoliaeth.
Roedd llygedyn o obaith i Wlad yr Haf wrth i Tim Groenewald daro dau chwech oddi ar Michael Hogan yn y belawd olaf ond un, ond roedd pelawd dynn gan Wayne Parnell – ar ei ymddangosiad olaf i Forgannwg – yn golygu bod y Cymry’n cael croesi Pont Hafren gyda’r pwyntiau wedi’u sicrhau.
Ymateb Colin Ingram
Ar ôl ei fatiad arwrol a thyngedfennol, dywedodd Colin Ingram: “Dim ond ychydig wythnosau dreuliais i’n chwarae i Wlad yr Haf y llynedd, ond mae’r wiced yn Taunton bob amser yn dda ac ro’n i’n hapus gyda fy matiad.
“Fe gollon ni gwpwl o wicedi yn y pelawdau canol felly roedd hi’n bwysig ’mod i’n aros tan y diwedd.
“Ro’n i am roi pelen ola’r batiad yn yr afon i gyrraedd fy nghanred, ond nid felly y bu.”
Wrth drafod bowlio’i gydwladwr Wayne Parnell, dywedodd Ingram: “Dw i wedi’i weld e’n gwneud hynny lawer gwaith dros y blynyddoedd.
“Roedd yn gyfle iddo fe ddangos ei ddoniau ac roedd y belawd ola’n wych.
“Roedd yn fuddugoliaeth fawr i ni ac mae’n ein cadw ni ynddi.”
Siom i Wlad yr Haf
Wrth i Forgannwg ddathlu’r fuddugoliaeth, roedd siom i’w cyn-gapten a chyn-hyfforddwr, Matthew Maynard, prif hyfforddwr Gwlad yr Haf.
Awgrymodd Maynard fod nifer o benderfyniadau amheus gan y dyfarnwyr wedi costio’n ddrud i’w dîm.
Ildiodd Jamie Overton ddau rediad am fowlio bownsar dros yr uchder derbyniol ac wrth fatio, cafodd ei ddal oddi ar belen oedd hefyd yn ymddangos yn rhy uchel.
Dywedodd Matthew Maynard: “Y peth siomedig i fi oedd y ddau benderfyniad aeth yn ein herbyn ni.
“Mewn gwirionedd, wnaethon nhw gostio pedwar rhediad i ni ac fe fyddai hynny wedi cipio’r fuddugoliaeth i ni.
“Dy’n ni ddim yn cael y gorau o bethau. Wnaethon ni ddim ei gael e heddiw nac yng Nghaerdydd pan herion ni Forgannwg yno, ond mae pethau’n cylchdroi a dy’n ni ddim yn bell i ffwrdd.
“Ry’n ni’n dal i fod yn y gystadleuaeth.
“Ein problem ni heddiw oedd nad oedden ni wedi adeiladu unrhyw bartneriaeth fawr.”