Mae cyn-gapten tîm rygbi Cymru, Ryan Jones wedi dweud nad oes rheswm pam na all Cymru gymhwyso o’u grŵp yng Nghwpan Rygbi’r Byd.
Dim ond dau allan o dri o blith Cymru, Lloegr ac Awstralia all gyrraedd yr wyth olaf, ac mae Jones yn credu bod rhaid i Gymru ddechrau’n gryf yng ngrŵp A er mwyn gwneud hynny.
Bydd Cymru’n ceisio dial ar Loegr wedi iddyn nhw golli o 21-16 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Chwefror.
Dywed Ryan Jones y gallai’r ornest yng Nghwpan y Byd fod yn dyngedfennol wrth benderfynu pwy fydd yn symud ymlaen i’r wyth olaf.
“Allwch chi ddim fforddio dechrau’n araf, mae’n grŵp anodd dros ben.
“Bydd symud trwy’r grŵp neu beidio yn cael ei benderfynu ar sail sut maen nhw’n dechrau, pa mor gyflym maen nhw’n dod at ei gilydd dros y 10 wythnos nesaf a hefyd sut mae Lloegr ac Awstralia’n gwneud.
“Yn sicr, does dim rheswm pam na all Cymru symud ymlaen trwy’r grŵp.”
Wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth, bydd carfan Warren Gatland yn herio Iwerddon ym mis Awst a’r Eidal ym mis Medi.
Bydd gêm gyntaf Cymru ar Fedi 20 pan fyddan nhw’n herio Wrwgwai.