Mae roced SpaceX oedd yn cludo nwyddau o’r Orsaf Ofod Ryngwladol wedi ffrwydro ychydig ar ôl gadael Cape Canaveral yn Florida.
Cafodd y digwyddiad ei gadarnhau gan Nasa, ond dydyn nhw ddim yn gwybod eto sut y bu i’r roced ffrwydro.
Dyma’r ail waith i ymdrechion i gludo nwyddau i’r Orsaf Ofod Ryngwladol fethu.
Ym mis Ebrill, collwyd rheolaeth ar long ofod Rwsiaidd.
Fis Hydref y llynedd, cafodd llong ofod arall ei dinistrio wrth geisio gadael Cape Canaveral.