Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi cyhuddo’r Aelod Seneddol Llafur Andy Burnham o ragrith.

Dywedodd Burnham, sy’n un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth ei blaid, ei fod yn ymwybodol wyth mlynedd yn ôl fod Cymru’n cael ei than-gyllido.

Bryd hynny, roedd Burnham yn weinidog yn y Trysorlys.

Ond fe ddywedodd Burnham wrth raglen ‘Sunday Supplement’ y BBC nad oedd modd iddo newid polisi’r Llywodraeth ar y pryd.

Yn 2007, fe wrthododd alwadau am newid fformiwla Barnett, sy’n cael ei ddefnyddio i gyfrifo cyllideb Llywodraeth Cymru.

Fe ddywedodd Burnham wrth y BBC heddiw ei fod wedi “dod i’r casgliad nad oedd yn deg i Gymru ac y byddai angen newidiadau iddo er mwyn sicrhau setliad ariannol llawer tecach.”

‘Dweud un peth ond gwneud rhywbeth arall’

Wrth ymateb i sylwadau Andy Burnham, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ei fod yn “rhywun arall sy’n dweud un peth ond yn gwneud rhywbeth arall pan fo ganddo gyfle a dylanwad”.

“Tra ei fod yn Nhrysorlys y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, roedd Andy Burnham mewn sefyllfa ddelfrydol i fynd i’r afael â’r ffaith fod Cymru’n cael ei than-gyllido. Wnaeth e ddim byd.

“Pam ddylai unrhyw un gredu nawr ei fod e’n wahanol i unrhyw un o’r arweinwyr blaenorol sydd wedi cicio anfantais ariannol blynyddol Cymru o’r neilltu?”