Mae dynes o’r Coed Duon ymhlith y rhai gafodd eu lladd yn dilyn ymosodiad brawychol yn Tunisia ddydd Gwener.
Cafodd y newyddion am farwolaeth Trudy Jones gan Aelod Seneddol Islwyn, Chris Evans.
Mewn datganiad, dywedodd: “Pan wnaeth y newyddion am yr ymosodiad ffiaidd ar bobol ddiniwed ar eu gwyliau dorri, roedden ni’n gwybod ei bod yn debygol fod trigolion o Brydain ymhlith y rhai fu farw.
“Rydyn ni bellach wedi sylweddoli beth yw realiti’r ymosodiad erchyll a chiaidd ar ein cymunedau gyda’r newyddion bod Trudy Jones o’r Coed Duon ymhlith y rhai gafodd eu llofruddio.
“Mae fy meddyliau a’m gweddïau gyda’i theulu a’i ffrindiau yn y cyfnod anodd hwn.”
Saethodd Seifeddine Rezgui, 23, at dwristiaid ar y traeth ddydd Gwener.
Mae lle i gredu fod ganddo gysylltiadau â’r Wladwriaeth Islamaidd.
Roedd ffrwydradau mewn gwestai cyfagos hefyd, cyn i’r heddlu ei saethu’n farw.
Teyrnged
Roedd Trudy Jones yn fam i bedwar o blant ac roedd hi wedi ysgaru.
Mewn teyrnged, dywedodd ei theulu: “Doedd ein mam, o bawb, ddim yn haeddu hyn – y fath berson gofalgar oedd yn rhoi pawb o’i blaen hi ei hun.
“Bob amser yn barod i helpu eraill, roedd hi’n caru pawb o’i chwmpas, gan gynnwys yr holl bobol roedd hi’n gofalu amdanyn nhw yn y gwaith.
“Bydd cynifer o bobol yn gweld ei heisiau hi.
“Hi oedd craig ein teulu ni ac yn ein cadw ni i gyd i fynd.
“Does gan yr un ohonon ni ddim syniad sut y byddwn ni’n ymdopi hebddi.”
Gofynnodd y teulu am breifatrwydd i alaru.