Mae corff dyn 44 oed wedi cael ei ddarganfod ar safle’r Stadiwm Olympaidd yn Llundain.
Roedd y dyn wedi bod yn gweithio yn y stadiwm yn Stratford, ac fe ddaeth yr heddlu o hyd i’w gorff am 7.30 y bore ma.
Mae lle i gredu bod dyn wedi syrthio i’w farwolaeth a’i fod wedi marw erbyn i ambiwlans gyrraedd toc cyn 8 o’r gloch.
Does dim esboniad am ei farwolaeth hyd yma.
Dydy Heddlu Scotland Yard ddim wedi enwi’r dyn, ond fe ddywedon nhw ei fod yn gweithio ar y safle a’u bod nhw’n ceisio dod o hyd i’w deulu.
Mae gweithwyr wrthi’n trawsnewid y stadiwm yn leoliad ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, ac fe fydd clwb pêl-droed West Ham yn symud yno yn 2016.
Ymchwiliad
Mewn datganiad, dywedodd y contractwyr Balfour Beatty: “Gallwn gadarnhau fod marwolaeth wedi bod ar safle’r hen Stadiwm Olympaidd y bore ma.
“Rydym yn cydweithio â’r awdurdodau perthnasol wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.”
Mae’r gwaith ar y safle wedi cael ei ohirio am y tro.