Lyon
Mae’r dyn oedd yn cael ei amau o ddienyddio rheolwr cwmni cludiant yn Lyon yn Ffrainc wedi cyfaddef iddo cwblhau’r ymosodiad brawychol ddydd Gwener.

Mae Yassine Salhi, oedd â chysylltiadau ag eithafwyr Islamaidd, yn y ddalfa gyda’i wraig a’i chwaer.

Dydy swyddogion ddim wedi darganfod unrhyw gysylltiadau rhwng yr ymosodiad ac unrhyw grŵp brawychol.

Mae lle i gredu bod Salhi wedi gyrru tryc i mewn i ochr adeilad oedd yn dal cemegion, gan osod pen ei gyflogwr ar giât.

Dywed swyddogion ei fod wedi anfon hun-lun ohono fe a’r dyn a lofruddiodd i ffôn symudol yng Nghanada.