Mae saith o ddynion o nifer o wledydd Ewrop wedi cael eu cyhuddo ar ôl i heroin gwerth £8.5 miliwn gael ei ddarganfod yn ystod cyrch yn Swydd Stafford.
Cafodd 77.5 kilo o’r cyffur dosbarth A ei ddarganfod mewn cerbydau ar hyd yr M6 nos Wener.
Cafodd y cyrchoedd eu trefnu gan Uned Torcyfraith Ranbarthol Gogledd Orllewin Lloegr, Titan a’r Asiantaeth Torcyfraith.
Bydd y saith yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Manceinion ddydd Llun, ac mae wythfed dyn yn cael ei holi yn y ddalfa.
Y rhai sydd wedi cael eu cyhuddo yw Burack Gurgur, Ugur Bakac a Yasar Kemel Ozekmecki o Lundain, Erwin Lorenz Hendriks o’r Iseldiroedd, Robert Miszkjiel a Tomasz Marcin Dylewski o Wlad Pwyl, a Jerzy Jacek Banucha.
Maen nhw’n wynebu cyhuddiadau o gynllwynio i fewnforio’r cyffur.