Mae lle i gredu bod un person wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad bws yng Ngwlad Belg.
Roedd dau yrrwr, chwech oedolyn a 34 o blant ar y bws ar draffordd E40 ger Middelkerke yn Fflandrys pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad y bore ma.
Bu farw’r gyrrwr.
Mae cwmni Richmond Coaches o Sir Antrim wedi cadarnhau mai un o’i bysus nhw fu yn y gwrthdrawiad.
Roedd yn cludo plant o ysgol yn Brentwood, Swydd Essex, ac mae un o’r plant yn derbyn triniaeth mewn uned gofal dwys wedi torri ei benglog.
Mae lle i gredu bod y bws wedi taro piler.