Mae dyn o Bontypridd gafodd ei saethu yn ei ysgwydd, ei frest a’i glin yn dilyn ymosodiad brawychol ar draeth yn Tunisia wedi dychwelyd i Gymru.

Taflodd Matthew James, 30, ei hun o flaen ei ddyweddi, Saera Wilson wrth i ddyn saethu at bobol ar draeth yn Sousse ddydd Gwener.

Saethodd Seifeddine Rezgui, 23, at dwristiaid ar y traeth ddydd Gwener.

Mae lle i gredu fod ganddo gysylltiadau â’r Wladwriaeth Islamaidd.

Roedd ffrwydradau mewn gwestai cyfagos hefyd, cyn i’r heddlu ei saethu’n farw.

Dywedodd mam Matthew James, Kathryn ar Twitter mai’r “teimlad mwyaf gwefreiddiol” oedd cael gweld ei mab a’i ddyweddi yn dod oddi ar awyren.

Ychwanegodd fod ei mab wedi dal llaw dyn oedrannus oedd hefyd wedi cael ei saethu yn y digwyddiad.

Mae mwy na £10,000 wedi cael ei roi i gronfa gafodd ei sefydlu ar gyfer Matthew James, a diolchodd ei fam i’r cyhoedd am eu cymorth.

‘Diolch’

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau gan Heddlu’r De, dywedodd llefarydd ar ran y teulu: “Mae Matthew mewn cyflwr sefydlog a chyffyrddus – ac mae e a’i ddyweddi Saera yn gwneud yn dda, ac yn hapus o gael dychwelyd i’r DU.

“Hoffen nhw ddiolch i’r holl dimau meddygol yn Tunisia a’r DU am eu cymorth, gofal a chefnogaeth proffesiynol.

“Hoffen nhw ddiolch hefyd i bawb oedd ynghlwm wrth sicrhau eu bod yn dychwelyd yn ddiogel i’r DU, ac am y gefnogaeth gan eu teulu, ffrindiau a’r cyhoedd.”

Gofynnodd y teulu am breifatrwydd wrth i’r ddau barhau i wella.