Senedd Gwlad Groeg
Fe fydd gweinidogion parth yr ewro yn gwneud ymgais arall heddiw i geisio dod i gytundeb ynglŷn ag argyfwng ariannol Gwlad Groeg ar ôl i’r trafodaethau diweddaraf ddod i ben ar ôl llai nag awr neithiwr.
Gyda Gwlad Groeg yn wynebu methu ad-dalu ei dyledion erbyn 30 Mehefin, mae pwysau ar weinidogion cyllid 19 o wledydd yr ewro i ddychwelyd i’r bwrdd trafod ym Mrwsel heddiw a cheisio dod i gytundeb.
Fe fydd y trafodaethau yn digwydd ar y cyd a chyfarfod rhwng arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd sy’n cynnal cynhadledd deuddydd ym Mrwsel. Mae’n debyg y bydd trafferthion Gwlad Groeg ar frig yr agenda yno.