David Cameron
Mae David Cameron yn gobeithio dechrau trafodaethau ffurfiol ar aelodaeth Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd wrth iddo gyfarfod arweinwyr y gwledydd eraill ym Mrwsel heddiw.
Gobaith y Prif Weinidog yw y gallai’r trafodaethau fynd i’r afael â rhai o’i bryderon ynglŷn â sofraniaeth, mewnfudo, ac amddiffyn y gwledydd hynny sydd ddim yn rhan o’r Ewro.
Ond mae’n bosib na fydd arweinwyr y 27 gwlad arall mor barod i drafod â David Cameron, gydag argyfwng economaidd Gwlad Groeg a mewnfudwyr yn croesi Môr y Canoldir ar frig yr agenda.
Dechrau’r trafodaethau
Cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd heddiw yw’r tro cyntaf ers yr etholiad cyffredinol i berthynas Prydain â’r Undeb Ewropeaidd gael ei drafod yn ffurfiol.
Mae David Cameron, sydd yn bwriadu cynnal refferendwm ar y mater erbyn diwedd 2017, eisoes wedi cyfarfod Canghellor yr Almaen Angela Merkel a rhai arweinwyr Ewropeaidd eraill i drafod ei bryderon.
Ond fydd gofynion Prydain ddim yn cael eu trafod yn y gynhadledd heddiw, gyda David Cameron yn cael cyfle i amlinellu ei safbwynt yntau yn unig.
Ac mae gweinidog economi Ffrainc, Emmanuel Macron, eisoes wedi awgrymu na fydd Llywodraeth Prydain yn cael eu ffordd eu hunain yn gyfan gwbl yn ystod y trafodaethau, gan ddweud y byddan nhw’n gwrthwynebu unrhyw newid i gytundebau neu ryddid i symud o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
‘Pryderon’ pobl Prydain
Cyn gadael am Frwsel, dywedodd David Cameron fod angen dechrau’r trafodaethau yn fuan er mwyn mynd i’r afael â phryderon pobl y wlad ynglŷn â’r Undeb Ewropeaidd.
“Dyma fy nghyfarfod Cyngor Ewropeaidd cyntaf ers yr etholiad a’r cyfarfod UE cyntaf ble mae ail-drafod perthynas y DU a’r UE ar yr agenda yn ffurfiol,” meddai’r Prif Weinidog.
“Mae hwn yn gyfle i ddechrau’r trafodaethau a dechrau proses i weithio drwy’r hanfodion er mwyn canfod atebion.
“Fe fydd hyn yn mynd a ni gam yn agosach at ddelio â’r pryderon sydd gan bobl Prydain am yr Undeb Ewropeaidd. A cham yn agosach at newid y drefn bresennol er gwell ac yna rhoi cyfle i bobl Prydain roi eu barn nhw ynglŷn ag a ddylai’r DU aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd.”