Bydd meddygon awyr newydd yn dechrau ar eu gwaith yng Nghymru ar ôl cael caniatâd i fwrw ati gan y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Mae’r gwasanaeth newydd yn golygu y bydd ymgynghorwyr meddygol, fel rhan o Wasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), yn ymuno ag ymarferwyr gofal critigol ar alwadau’r Ambiwlans Awyr am y tro cyntaf.

Gall y timau meddygol gyrraedd 95% o’r boblogaeth drwy’r awyr, a 46% ar hyd y ffyrdd o fewn hanner awr.

Mae’r meddygon awyr wedi cwblhau mwy na 100 o alwadau ers diwedd mis Ebrill ar hofrenyddion yr Ambiwlans Awyr, ac maen nhw wedi gwneud chwe thrallwysiad gwaed ac wedi rhoi anesthetig brys i fwy nag 20 o bobol.

Offer

Mae lansio’r gwasanaeth hefyd yn golygu mai Ambiwlans Awyr Cymru yw un o’r gwasanaethau cyntaf o’i fath yn Ewrop i gludo tri chynnyrch gwaed gwahanol.

Maen nhw hefyd wedi ymateb i achosion o drawma mewn mwy na hanner y galwadau.

Bydd gan y meddygon awyr dechnoleg ac offer newydd i’w cynorthwyo sydd ar gael mewn ysbytai yn unig fel arfer.

Mae’r offer hefyd yn cynnwys cerbydau ymateb brys 4×4, monitorau, peiriannau adeiladu, offer monitro gwaed a sganwyr uwchsain o’r radd flaenaf.

Bydd Llywodraeth Cymru’n darparu £2.868 miliwn o 2015-16 i gefnogi’r gwasanaeth, ond mae’r Ambiwlans Awyr yn parhau i ddibynnu ar roddion elusennol i godi £6 miliwn hanfodol bob blwyddyn.

‘Carreg filltir’

Mewn datganiad, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae lansiad swyddogol EMRTS Cymru heddiw yn garreg filltir bwysig i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

“Bydd y timau gofal critigol newydd yn cael eu harwain gan feddygon ac yn ein galluogi i gynnig y gofal gorau posibl i’r cleifion sydd fwyaf difrifol wael yng Nghymru.

“Mae hyn yn golygu bod cleifion mewn rhannau diarffordd a gwledig o Gymru yn gallu manteisio ar sgiliau ymgynghorydd neu feddygon gofal dwys a all achub bywyd a rhoi gofal critigol arbenigol.”

Cymunedau gwledig

Dywedodd prif weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru, Angela Hughes: “Mae rhoi ymgynghorwyr ar ein hofrenyddion yn gam mawr arall tuag at ddarparu’r gwasanaeth ambiwlans awyr gorau yn y byd.

“Mae’n bwysig i bobl Cymru bod gwasanaeth gofal brys o’r radd flaenaf ar gael, yn enwedig o ystyried nifer y cymunedau gwledig sydd yma. Bydd y datblygiadau hyn yn achub bywydau llawer o bobl sydd angen cymorth brys.

“Rydyn ni wedi cael cefnogaeth aruthrol gan bobl yn codi arian ers ein lansio yn 2001, ac rydyn ni’n parhau i ddibynnu’n llwyr ar gyfraniadau elusennol i godi mwy na £6m y flwyddyn i gadw hofrenyddion Cymru yn yr awyr.”

‘Cyfraniad mawr’

Dywedodd cyd-gyfarwyddwr EMRTS Cymru, Dr Rhys Thomas: “Rydyn ni wedi cael ymateb gwych i broses recriwtio’r rhaglen ac wedi rhoi tîm o glinigwyr hynod ddawnus at ei gilydd o bob rhan o Gymru a thu hwnt.

“Mae pob aelod o’r tîm wedi perfformio’n rhagorol i gwblhau eu hyfforddiant cyn mynd ar yr hofrenyddion, ac maen nhw eisoes yn gwneud cyfraniad mawr ar alwadau ledled Cymru.

“Mae eu sgiliau, ynghyd â’r offer newydd sydd gennym, yn ffurfio tîm gofal critigol y gall Cymru ymfalchïo’n fawr ynddo.”