Mae’r drafferth yn Calais yn debygol o barhau am ail ddiwrnod wrth i ffoaduriaid dargedu lorïau mewn ymgais i deithio i’r DU.
Ddoe, roedd gweithwyr fferi wedi mynd ar streic gan dorri i mewn i Dwnnel y Sianel gan orfodi iddo gael ei gau.
Yn sgil hynny, fe wnaeth y ffoaduriaid geisio manteisio ar y streic wrth geisio dringo ar lorïau, oedd yn teithio i’r DU, oedd wedi gorfod arafu neu stopio oherwydd y ciw i mewn i’r porthladd.
Mae delweddau’r bore ma’n dangos rhai ffoaduriaid ar ochr y draffordd tra bod eraill yn cael eu gweld yn agor drysau cefn lorïau sy’n sownd mewn traffig.
Dywedodd y gweinidog mewnfudo, James Brokenshire, y bydd mwy o adnoddau’n cael eu rhoi i sgrinio cerbydau sy’n dod o Ffrainc yn Dover heddiw, gan ychwanegu fod Ffrainc yn darparu swyddogion heddlu ychwanegol yn Calais i ddelio â’r broblem hefyd.
Er bod cannoedd o deithwyr Eurostar yn sownd ddoe, dywedodd y cwmni trenau cyflym fod disgwyl i bob gwasanaeth redeg yn ôl yr arfer heddiw – gyda phob gwasanaeth o Lundain yn llawn.