Palas Buckingham
Fe allai’r Alban gwtogi ei chyfraniad i’r teulu brenhinol o fwy na £1 miliwn os yw cynlluniau ar gyfer datganoli pellach yn cael eu cymeradwyo, yn ôl adroddiadau.

Gallai’r teulu brenhinol ddisgwyl gostyngiad blynyddol o rhwng £1m a £1.5m y flwyddyn os yw’r elw o Ystadau’r Goron yn yr Alban gael eu cadw gan Senedd yr Alban yn hytrach na Senedd San Steffan ymhen blwyddyn, meddai ffynhonnell frenhinol.

Daeth y manylion i’r amlwg wrth i gyfrifon y teulu brenhinol ddangos bod eu costau teithio wedi cynyddu bron i £1 miliwn yn ystod 2014/15 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ond roedd gwariant cyffredinol wedi aros yr un fath.

Ond mae Llywodraeth yr Alban a’r DU wedi dweud nad ydyn nhw’n disgwyl i ddatganoli gael effaith negyddol ar gyfraniad yr Alban i’r teulu brenhinol.

Mae ffigurau gafodd eu rhyddhau gan Balas Buckingham yn dangos bod y teulu brenhinol wedi costio £35.7 miliwn i’r trethdalwr am yr ail flwyddyn yn olynol – sy’n cyfateb i 56c am bob person yn y wlad.

Cafodd bron i hanner yr arian ei wario ar gyflogau staff, tra bod cynnal a chadw’r eiddo wedi gostwng o £13.3m y llynedd i £11.7m eleni. Mae £2.2m wedi cael ei roi i un ochr ar gyfer gwaith cynnal a chadw ar Balas Buckingham.

Mae disgwyl i’r teulu brenhinol gael rhagor o arian gan y pwrs cyhoeddus eleni.