Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad ar ôl i gorff babi newydd gael ei ddarganfod yn Afon Taf yng Nghaerdydd neithiwr.

Daeth yr heddlu o hyd i’r babi yn yr afon ger Heol Penarth toc wedi 6yh nos Fawrth.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad ac yn awyddus i ddod o hyd i fam y bachgen bach.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Latham: “Rydym yn awyddus i ddod o hyd i fam y babi yma er mwyn sicrhau ei bod yn cael y driniaeth feddygol y mae hi ei hangen.

“Rydym yn apelio arni i gysylltu â ni fel ein bod ni’n gallu rhoi’r cymorth a’r cysur y mae hi ei angen.”

Maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad neu gan unrhyw un a allai eu helpu i adnabod mam y babi. Credir fod y babi wedi ei eni yn ystod y dyddiau diwethaf.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Latham mai eu blaenoriaeth ar hyn o bryd yw diogelwch a lles y fam.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu’n ddienw drwy Taclo’r Taclau ar 0800 555111 gan nodi’r cyfeirnod 1500224381.