Mae doctoriaid wedi pleidleisio o blaid gwneud gwaith ymchwil i beryglon gyrru gyda dementia, oherwydd pryderon nad yw nifer o ddioddefwyr yn ‘ddiogel ar y ffyrdd’.
Mewn cyfarfod o Gymdeithas Feddygol y BMA yn Lerpwl, dywedodd Dr Peter Holden, arbenigwr ar ddementia, nad oedd gan ganolfan drwyddedu’r DVLA yn Abertawe ganllawiau digon clir ynglŷn â gyrru gyda dryswch meddwl.
Roedd yn ofni, meddai, y byddai rhywun nad oedd yn ddigon iach i yrru rhyw ddydd yn gyrru car i ganol rhes o blant.
“A fyddech chi’n gadael i ddioddefwr dementia gydio mewn gwn?” meddai cyn y bleidlais.
Bathodynnau glas
Y llynedd, fe gafodd achos yng Nghymru sylw yn y wasg ar ôl i bensiynwr anafu deg o bobol mewn damwain a rhoi’r bai ar ddementia.
Roedd Peter Holden hefyd wedi galw am newid y rheolau tros fathodynnau glas er mwyn iddyn nhw fod ar gael i bobol gyda dementia.
Roedd Dr Stephen Watkins, aelod o Gyngor y BMA, wedi gwrthwynebu cynigion Dr Holden gan ddweud eu bod yn rhy “simplistig” a bod angen “polisi cynhwysfawr ar drafnidiaeth ar gyfer pobl hŷn”.
Dywedodd George McNamara, pennaeth polisïau Cymdeithas Alzheimer’s nad yw “dementia ynddo’i hun yn rheswm i roi’r gorau i yrru. Y mater allweddol yw a yw’r unigolyn ei hun yn ddiogel i yrru ai peidio”.
Rôl y DVLA
Y DVLA yn Abertawe sydd â’r hawl i nodi a yw gyrwyr yn ddiogel ar y ffyrdd ai peidio, ond gall doctoriaid gynnig argymhellion hefyd.
Dywedodd ymgynghorydd meddygol y DVLA, Andrew White, fod angen “i bawb sicrhau eu bod yn abl i yrru, gan hysbysu’r DVLA os oes gennych gyflwr meddygol sy’n gwaethygu. Nid oedran yn unig sy’n effeithio ar allu rhywun i yrru.”