Huw Lewis
Mae’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, wedi cyflwyno ei gynlluniau i drawsnewid system hyfforddiant athrawon yng Nghymru.

Wrth sôn am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad yr Athro John Furlong, Addysgu Athrawon Yfory, dywedodd Huw Lewis bod yr adroddiad yn dangos bod angen newid system addysg athrawon.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru a’i gyhoeddi ym mis Mawrth.

Meddai y bydd y ffordd newydd ymlaen yn cynnwys diwygio’r safonau addysgu proffesiynol a gwella ansawdd y cyrsiau hyfforddiant i athrawon drwy ailwampio’r broses cymwysterau.

‘Newidiadau mawr’

Dywedodd y Gweinidog bod angen i’r cynllun fod yn drylwyr ac yn bellgyrhaeddol er mwyn gallu paratoi cenhedlaeth newydd o athrawon proffesiynol sydd â’r sgiliau i wireddu’r newidiadau mawr a fydd yn digwydd i gwricwlwm Cymru dros y blynyddoedd nesaf, yn sgil adolygiad Donaldson.

Gofynnwyd i’r Athro Furlong edrych yn fanwl ar y ffordd y mae hyfforddiant athrawon yn cael ei drefnu yng Nghymru ar hyn o bryd, a hefyd ar y dystiolaeth bod angen newid.

Gofynnwyd iddo edrych ar y mesurau y mae eu hangen i gynnal system hyfforddiant ac addysg gychwynnol i athrawon sydd o safon ryngwladol, ac sy’n gallu cystadlu â goreuon y byd – yn dilyn canlyniadau siomedig Cymru ym mhrofion rhyngwladol Pisa yn y blynyddoedd diwethaf .

‘Cenhedlaeth newydd o athrawon’

Dywedodd Huw Lewis AC:  “Fel y nododd Estyn yn ddiweddar, mae yna fomentwm newydd mewn addysg yng Nghymru, sy’n cael ei yrru gan ein rhaglen ddiwygio uchelgeisiol sy’n canolbwyntio ar godi safonau i bob dysgwr ym mhob dosbarth.

“Bydd angen inni baratoi cenhedlaeth newydd o athrawon proffesiynol  sydd â’r cymwysterau, y sgiliau, a’r gwytnwch y mae eu hangen i wireddu ein hagenda ddiwygio ac adeiladu system addysg gynaliadwy sy’n gallu gwella ei hunan yn barhaus ac sy’n addas ar  gyfer y dyfodol.

“Mae hyn yn gofyn i’r proffesiwn addasu i newidiadau unigryw a sylfaenol yng Nghymru, a bydd yn gofyn am ymarferwyr sy’n cwestiynu eu dulliau ac sydd â’r awydd i wella a diweddaru eu harferion drwy gydol eu gyrfa.”

Nawr, bydd yr Athro Furlong yn cadeirio grŵp gorchwyl a gorffen, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o faes Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon, Consortia ac ysgolion.

Bydd y grŵp yn adolygu’r meini prawf achredu er mwyn sicrhau ei bod yn ofynnol i ddarparwyr hyfforddiant ddangos tystiolaeth bod eu cyrsiau o’r safon uchaf cyn iddynt gael eu hachredu.

Hyfforddi am bedair blynedd

Ymhlith y camau eraill, mae ymestyn y ddarpariaeth i israddedigion ar gyfer athrawon cynradd dan hyfforddiant i bedair blynedd, gyda’r posibilrwydd o gynnwys elfen Feistr a gwybodaeth ar lefel ddwysach am bynciau sy’n berthnasol i addysgu mewn ysgol gynradd.

Yn ogystal mae bwriad i gynnal adolygiad annibynnol o’r cymelliadau ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd, gyda’r nod o ddod o hyd i’r ffordd orau o ddenu’r ymgeiswyr mwyaf galluog i faes addysg;  ystyried gweithredu rhaglen ysgoloriaeth bwrpasol i ddarpar athrawon er mwyn ei gwneud yn haws recriwtio athrawon sy’n addysgu pynciau STEM, cymhwystra digidol, llythrennedd a rhifedd.

Yn olaf, bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar lwybrau eraill i faes addysg ac yn adolygu’r Rhaglen Addysgu i Raddedigion er mwyn sicrhau ei bod yn cynnig llwybr hyfforddi hyblyg sy’n gallu bodloni’r galw mewn meysydd a phynciau lle mae’n anodd recriwtio.