Anne Lakey
Mae prifathrawes wedi ei chael yn euog o gael rhyw gyda bachgen 13 oed yn y 1980au.

Clywodd Llys y Goron Durham bod Anne Lakey, 55, wedi manteisio ar y bachgen pan oedd hi’n athrawes hanes yn ei 20au.

Aeth Anne Lakey ymlaen i gael gyrfa ddisglair gan ennill clod gan yr Adran Addysg am fod yn “arweinydd ysbrydoledig.”

Ond yn 2012 roedd y dioddefwr wedi anfon e-bost at yr ysgol gan arwain at ei gwahardd o’i gwaith tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan yr heddlu.

Cafwyd Lakey,  o Stanley yn Sir Durham, yn euog o bedwar cyhuddiad o ymosod yn anweddus a dau gyhuddiad o anweddustra gyda phlentyn.

Nid oedd y bachgen yn un o’i disgyblion ond roedd yn un o grŵp o fechgyn a fyddai’n mynd i’w chartref.

Mae bachgen arall hefyd wedi dweud iddo gael ei gam-drin gan Lakey.

Fe fyddai Lakey yn ei ganiatáu i gyffwrdd ei bronnau a siarad gyda hi tra roedd hi yn y bath. Yn ystod un o’r ymweliadau roedd Lakey wedi cael rhyw gyda’r bachgen ac roedd eu perthynas rywiol wedi parhau am rai misoedd.

Roedd Lakey yn briod a’i hail ŵr ar y pryd a bellach wedi priodi am y trydydd tro. Mae hi a’i  gwr, David, wedi bod yn briod ers 20 mlynedd ac mae ganddyn nhw ferch 19 oed.

Fe fydd Lakey yn cael ei dedfrydu yfory.